Projects

Pont Sain Alban, Treherbert

Cawsom y dasg gan Alun Griffiths Contractors o adeiladu a chodi 115 tunnell o ddur gwrthdywydd ar y bont bum rhychwant sy’n croesi Afon Rhondda yn Nhreherbert, ar gyfer Cyngor Rhondda Cynon Taf. Roedd galw mawr am y prosiect hwn gan ddefnyddwyr lleol ac roeddem yn hapus bod buddsoddiad wedi’i wneud i ddiogelu’r bont ar gyfer y dyfodol.

Adeiladwyd y bont wreiddiol yn y 1930au, ac roedd hi bellach mewn cyflwr gwael. Felly, yn ogystal â gwella’r bont, roeddem yn awyddus i arbed amser ac egni’r tîm ehangach trwy nifer o ffyrdd gan gynnwys adeiladu oddi ar y safle a sicrhau bod y deunyddiau’n hirhoedlog ac yn effeithlon er mwyn lleihau’r angen am gostau cynnal a chadw ac atgyweirio ychwanegol yn y dyfodol.

Mae’r prosiect, a oedd yn werth £400k, wedi cymryd dros 5,000 o oriau adeiladu, a defnyddiwyd dulliau peirianneg gwerth ar gyfer dilyniant yr adeiladu er mwyn dileu’r angen i osod trestlau cynnal dros dro ar y safle. Cafodd trawstiau eu cydosod ymlaen llaw yn ein safle ym Mhont-y-pŵl ac fe’u codwyd i’w lleoliad o’r cludiant er mwyn lleihau gweithio ar uchder ar y safle a lleihau rhaglen y safle.

Roedd angen 2,500 o folltau rheoli tensiwn i ddal y gwaith dur at ei gilydd, a 6,000 o stydiau wedi’u weldio i gysylltu’r trawstiau dur â’r dec concrit. Cymerodd tîm ymroddedig Pro Steel bythefnos i gwblhau’r gwaith o osod y 38 beryn a 30 trawst y bont ar y safle.

Ymhen amser, bydd y dur gwrthdywydd yn magu ei batina ei hun, gan amddiffyn ei hun rhag glaw Cymru ac atal rhydu!