Projects

Canolfan Gynadledda Rhyngwladol Cymru, Celtic Manor

Comisiynwyd Pro Steel Engineering i greu draig ddur eiconig ar gyfer Canolfan Gynadledda Rhyngwladol Cymru.

Mae’r ganolfan wedi’i lleoli yn Celtic Manor, ac mae’r cyfleuster cynadledda sy’n werth £84m yn cynnwys lle ar gyfer 5,000 o bobl, gan gynnwys awditoriwm ar gyfer 1,500 o bobl, wedi’i rannu dros ddwy lefel, a 15 ystafell gyfarfod. Mae’r adeilad yn edrych dros yr M4 yng Nghasnewydd ac mae’n haeddu cael cerflunwaith eiconig.

Fe’i hadeiladwyd o 22 tunnell o blât dur a thoriadau dur, a chymerodd y gwaith wyth mis o’r dechrau i’r diwedd, sef 1,700 o oriau saernïo, 850 litr o baent a phedair wythnos ar y safle i’w godi.

Dywedodd llefarydd ar ran Pro Steel: “Bu amrywiaeth o weithwyr yn gweithio ar y prosiect, gan gynnwys gwneuthurwyr, weldwyr, peintwyr a chodwyr. Bu’n prentisiaid a’n hyfforddeion yn cymryd rhan ym mhob cam o’r broses gan gynnwys dylunio, cynhyrchu a gosod.

“Tata Steel oedd yn gyfrifol am y dyluniad cychwynnol, a chwblhaodd Pro Steel y dyluniad trwy waith dylunwyr wrth gefn, a bu’n gweithio’n agos â dylunydd Tata trwy gydol y broses.”