Rôl Cadeirydd Sefydliad y Cyfarwyddwyr Cymru i gyfarwyddwr Pro Steel

Rôl Cadeirydd Sefydliad y Cyfarwyddwyr Cymru i gyfarwyddwr Pro Steel

Ar 1 Tachwedd 2020, ymgymerodd ein cyfarwyddwr a’n cyd-sylfaenydd, Richard Selby, â rôl Cadeirydd Cenedlaethol Sefydliad y Cyfarwyddwyr yng Nghymru.

Mae’n edrych ymlaen yn fawr at gydweithio â thîm bendigedig Sefydliad y Cyfarwyddwyr Cymru ond, yn ddiamau, mae’n gyfnod heriol yma yng Nghymru ac mae wedi amlinellu ei weledigaeth yma.

Dywedodd Richard am ei rôl newydd: “Nid oes unrhyw amheuaeth bod cyfarwyddwyr gwell yn adeiladu byd gwell.  Cyn dod yn gyfarwyddwr wyth mlynedd yn ôl, nid oedd gennyf unrhyw syniad sut byddai’r penderfyniadau y byddwn yn eu gwneud yn effeithio ar fywydau cymaint o bobl, yn uniongyrchol fel cyflogwr ac ar sail ehangach o’m rôl yn y gymuned.  Ar ôl cyflawni llwyddiant drwy fy musnes, rwyf bob amser wedi’i ystyried yn bwysig rhannu hyn â’r bobl o’m cwmpas a chyfrannu at gymunedau ehangach, p’un a ydynt yn y sector busnes, elusennol neu’r sector cyhoeddus.

“Mae’n hanfodol ein bod yn cefnogi gweithgarwch economaidd cynaliadwy sy’n cael dylanwad cadarnhaol ar les cymdeithasol ac yn creu ffyniant hirdymor.  Mae darparu’r offer a’r sgiliau sydd eu hangen ar bobl ifanc i lwyddo mewn bywyd yn hollbwysig ar gyfer llwyddiant ei ddyfodol, a bydd ond yn ein helpu ymhellach i ffurfio Cymru i fod yn gyrchfan ar gyfer busnes.

“Fi yw cyfarwyddwr a chydsylfaenydd Pro Steel Engineering Ltd, sef cwmni dur arbenigol arobryn sydd wedi’i leoli yng Nghymru ac sy’n gweithredu ledled y DU a’r byd.  Mae uchafbwyntiau ein gwaith hyd yn hyn wedi cynnwys gweddnewid Stadiwm Olympaidd Llundain, draig Gymreig dur 22 tunnell Canolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru sy’n edrych dros yr M4, a sefydlu contractau allforio rhyngwladol.

“Yn ogystal â hyn, rwy’n:

  • Noddwr, Cymrawd Menter ac Aelod o Bwyllgor Ymgynghorol Ymddiriedolaeth y Tywysog
  • Cadeirydd a chyd-sylfaenydd Fforwm Economaidd Strategol Torfaen
  • Aelod o Fwrdd Partneriaeth Twf Economaidd Rhanbarthol – Prifddinas Ranbarth Caerdydd
  • Aelod sefydlol o Gweithgynhyrchu Cymru

“Rwyf wedi cyfranogi’n weithredol yn y gymuned fusnes yng Nghymru, ac wedi cael cyfleoedd i gyfrannu at lunio polisïau gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.”

Wrth gyflawni gofynion rôl Sefydliad y Cyfarwyddwyr Cymru o ddydd i ddydd, bydd hefyd yn ymdrechu i hybu tri maes allweddol:

  • Cysylltu arweinwyr er mwyn meithrin cadwyni cyflenwi lleol a sbarduno twf economaidd.
  • Datblygu arweinwyr drwy raglenni dysgu er mwyn sicrhau bod gennym yr arweinwyr gorau.
  • Dylanwadu ar y rhai sy’n llunio polisïau ym mhob haen o lywodraeth drwy gyfuno arbenigedd ein harweinwyr.

Bydd yr arwyddair ar arwyddlun Sefydliad y Cyfarwyddwyr, ‘Uniondeb a Menter’, wedi golygu rhywbeth gwahanol i’r sylfaenwyr ym 1903, ond fel y rhai sy’n gyfrifol am eu sefydliadau, gall cyfarwyddwyr sbarduno newid, a bydd yn ymdrechu i wireddu hyn yma yng Nghymru.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y gwaith mae Sefydliad y Cyfarwyddwyr Cymru yn ei wneud, neu os hoffech gael mwy o wybodaeth am ymaelodi, ewch i https://www.iod.com/events-community/regions/wales