LLYTHYR AGORED I BRIF WEINIDOG CYMRU

LLYTHYR AGORED I BRIF WEINIDOG CYMRU

Annwyl Brif Weinidog

Wrth ymateb i’r stori ar WalesOnline ynghylch: ”That decision is over’: Mark Drakeford says £1.3bn M4 relief road will not be happening’, teimlaf fod angen i mi fynegi rhwystredigaeth  llawer o bobl sydd wedi treulio blynyddoedd yn cymudo ar yr M4 o gwmpas Casnewydd, ac sydd wedi cael profiad o’r problemau parhaus yn ymwneud â thagfeydd. Mae’r agwedd hon yn fy siomi’n fawr; mae seilwaith yr M4 nid yn unig ar gwympo, ond os na chaiff ei drafod o gwbl, pa atebion sydd gennych wrth gefn pan ddaw’r diwrnod anochel pan fydd angen cau’r rhan honno o’r M4 ar gyfer gwaith atgyweirio mawr? Ble ydych chi’n argymell y dylai cymudwyr droi am ddewisiadau amgen, gan fy mod yn dychmygu mai dyna fydd y realiti cyn i unrhyw ateb o ran cludiant cyhoeddus gael ei gymeradwyo?

Er fy mod o blaid edrych ar atebion amgen o ran seilwaith trafnidiaeth cynaliadwy ledled Cymru at y dyfodol, gan gynnwys gwrthbwyso carbon neu niwtraliaeth carbon, lle bo hynny’n bosibl, nid yw’r M4 yn mynd i’r unman, ac felly mae angen “crefu” amdani ymhellach, fel y gwnaethoch ddisgrifio’r trafodaethau amdani. Ar ôl bwrw golwg dros Adroddiad Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru, mae’n ymddangos mai’r ‘llwybr du’ yw’r unig ateb a gyflwynwyd y gellir ei roi ar waith yn syth. Ynghyd â’r cyhoeddiad y bydd prisiau tocynnau trên yn cynyddu tuag 1.6% i gymudwyr yng Nghasnewydd yn Ionawr 2021, mae angen gwneud rhywbeth â defnyddwyr mewn golwg cyn i deithio o gwmpas yr ardal hon brisio a gwylltio pobl o bob cefndir allan, a fydd yn arwain at wasgu’r economi leol.

Er bod gweithio gartref yn destun trafod mawr yn ystod y cyfnod hwn, mae pobl eisiau mynd allan o hyd, ac nid wyf yn gweld traffig yn lleihau cymaint ag y byddech yn meddwl o ganlyniad i hyn. Ni fyddwn yn gweld llawer o wahaniaeth o ran lefelau traffig ar y draffordd, ond gyda llai o dagfeydd ar y ffordd, bydd hynny’n lleihau amser cymudo’n sylweddol ac yn caniatáu i bobl ganolbwyntio ar weithgareddau lles, fel ymarfer corff a threulio amser gwerthfawr gyda’u teuluoedd – agweddau y gwnaeth y cyfnod clo eu hamlygu fel amser gwerthfawr na fyddwn byth yn ei gael yn ôl. Yn bwysig, daw’r ymagwedd hon â manteision economaidd sylweddol i bob rhan o Gymru, ac nid y rhannau hynny sy’n agos at yr M4 yn unig.

Fel y dywedodd Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth y DU, Grant Shapps, ar BBC Radio Wales (21 Awst 2020), “mae o fudd i bob un ohonom wneud yn siŵr fod ein gwlad yn ei chyfanrwydd wedi’i chysylltu. Mae mwyafrif yr allforion o Gymru yn mynd i rannau eraill o’r Deyrnas Unedig; wrth gwrs mae’n gwneud synnwyr i ni fod â’r cysylltiadau gorau posibl.”

Adeiladwyd y rhan hon o’r draffordd ar adeg pan na roddwyd llawer o sylw i reoli ansawdd. Bydd lefel y tagfeydd yn parhau i wylltio busnesau a chymudwyr am flynyddoedd i ddod, a bydd hynny ond yn niweidio twf economaidd Cymru gyfan. Mae angen i bobl fod yn hyderus y gallant symud nwyddau a darparu gwasanaethau’n rhwydd heb orfod poeni am eu symud o A i B. Mae cadwyni cyflenwi lleol yn barod ac yn fodlon gweithio ar hyn, a fyddai’n galluogi cymunedau i gydweithio â’i gilydd tuag at nod cyffredin. Mae ein cymunedau lleol nid yn unig am i’r prosiect hwn ddechrau er eu lles eu hunain; maent am gyd-dynnu â’i gilydd a dangos bod Cymru, ei hiaith a’i threftadaeth yn croesawu busnes o bedwar ban byd.

Er nad yw’r trafodaethau’n cael eu hystyried am y tro, Brif Weinidog, ni fydd yn hir nes y bydd angen eu codi eto, a chymryd camau cyfatebol. Felly, os na fyddwch yn adeiladu’r ffordd newydd, bydd angen i chi roi ateb amgen ar waith yn gyflym, neu dderbyn efallai na fydd yr economi ac, yn y pen draw, ansawdd bywyd dinasyddion, cystal ag y gallant fod.

Richard Selby o Bont-y-pŵl, Cyfarwyddwr, Pro Steel Engineering